Clwb Brecwast

Gwnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad i roi cyfle i bob plentyn o oedran ysgol gynradd gael brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd, gyda’r bwriad o helpu i wella iechyd a gallu plant i ganolbwyntio, er mwyn helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad.

Cynhelir Clwb Brecwast yn Ysgol Llanbedrog. Mae’n glwb rhad ag am ddim i bob plentyn o oed ysgol. Bydd y Clwb ar agor rhwng 8:00 a 8:50. Bydd brecwast yn cael ei weini rhwng 8:00 a 8:50.

Darperir dewis o rawnfwyd, tost, sudd ffrwythau a llefrith. Adran Darparu Cyngor Gwynedd sydd yn darparu’r bwyd.

Goruchwylir disgyblion o fewn y Clwb gan oruchwylwyr Brecwast:
Mrs Susan Pritchar, Mrs Rosemary Roberts a Miss Iona Squires

Os dymunwch i’ch plentyn ddod i’r Clwb Brecwast gofynnir i chi lenwi’r ffurflen berthnasol a’i dychwelyd i’r ysgol.

Cliciwch yma am ffurflen gofrestru’r Clwb Brecwast

Dim ond plant sydd yn mynychu’r Clwb Brecwast ddylai gyrraedd yr ysgol cyn 8:50. Rhaid i bawb sydd yn dod i’r clwb fwyta brecwast yno.

 

sponsor logos noddwyr

Bookmark and Share

Datganiad Preifatrwydd
© 2023 - Ysgol Llanbedrog ~ Gwefan gan Delwedd