Siarter Iaith

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

21/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Snwcer

childrenDiolch o galon i Peter Williams 'Cue Games for Schools' a ddaeth atom i sgwrsio am y gêm a'i lwyddiant yng Nghymru. Diolch hefyd am y bwrdd i'r plant!


21/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Criced Cymru

childrenLlongyfarchiadau mawr iawn i'r tîm criced a gyrhaeddodd y rownd gyn derfynol heddiw! Rydym mor falch o'r ddau dîm am ddangos brwdfrydedd a chwrteisi arbennig! Ardderchog blantos!


20/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Sesiwn Rygbi

childrenDiolch o galon i Jessica Kavanagh Williams, 'Chwaraeon Am Oes' am sesiwn ymarfer rygbi gwerth chweil.


20/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Eisteddfod Ddawns

childrenPerfformiadau gwerth chweil gan y plant yn yr Eisteddfod Ddawns eto eleni! Cliciwch yma i weld fideo.


19/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Eisteddfod Ysgol

childrenUnwaith eto eleni, cawsom eisteddfod wefreiddiol a diwrnod i'w gofio. Diolch i'r holl feirniaid am eu gwaith caled, Mared Owen - cliciwch yma - cerddoriaeth, Mair Jones - cliciwch yma - llefaru, Mared Gwyn - cliciwch yma - llenyddiaeth, Dafydd Nant - cliciwch yma - ffotograffiaeth, Catherine Dolion - celf, Heather Caffi Grug - coginio, a Christine Jones - dawnsio. Ond yn fwy na dim, diolch i'r plantos am eu gwaith caled a'u brwdfrydedd heintus. Cliciwch yma i weld y fideo.


18/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Eisteddfod Goginio

childrenEisteddfod goginio lwyddiannus iawn eto eleni. Diolch am eich cefnogaeth. Cliciwch yma am fwy o luniau.


18/06/18 Wythnos Cymru Cwl - Alun Tan Lan

childrenAgoriad ysbrydoledig i Wythnos Cymru Cwl! Diolch i Alun Tan Lan am brofiadau gwirioneddol wych a chreadigol i'r disgyblion. Pawb wedi mopio efo'r iwcalelis! Cliciwch yma i weld fideo.


23/04/18 Tîm Pêl droed yr Urdd 2018

childrenDyma dîm Pêl droed yr Urdd


14/12/17 Hydref 2017

Hydref 2017Rydym yn andros o falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith unwaith eto yn 2017. Gwych! Da iawn bawb!

Cliciwch yma i weld yr gwobr aur


20/04/17 Testun Trafod

childrenRydym wedi penderfynu cyflwyno gweithgaredd ‘Testun Trafod’ bob wythnos i blant yr holl ysgol a gallwch chi ein helpu drwy gymryd rhan hefo ni.

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


25/02/17 Cyngerdd Gwyl Ddewi

childrenYmunwch â ni yn ein cyngerdd arbenng i ddathlu ac ymfalchio yn ein Cymreictod.

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


01/11/16 Gwobr Aur!

childrenMae’r Cyngor Ysgol yn gofyn am eich cymorth i hyrwyddo’r Siarter Iaith yn 2017-18

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


01/09/16 Cyrsiau Cymraeg

childrenCyrsiau Cymraeg ar gael

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth


24/06/2016 Gemau Buarth a Rhigymau Sgipio

disgyblionGemau buarth a dysgu rhigymau oedd i gloi Wythnos Cymru Cwl yn Ysgol Llanbedrog, pawb yn mwynhau chwarae gemau traddodiadaol er mwyn cadw yr iaith yn fyw. Cliciwch yma am fwy o luniau


23/06/2016 Disgo Cwl Cymru!

disgyblionCawsom brynhawn gwych o gerddoriaeth Gymraeg ddoe, dawnsio disgo a dawsnio gwerin! Roedd miwsic Meic Stephens, Frizbee, Patrobas, Y Chwedlau, Bryn Fon, Mirain Evans a Gwibdaith Hen Fran i'w clywed dros y Neuadd a phawb wrth eu boddau! Daeth Gaelle draw yn y bore i beintio gwynebau disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn barod at y disgo. Roedd pawb yn edrych yn ffantastic!! Cliciwch yma am fwy o luniau


21/06/2016 Wythnos Cymru Cwl - Mari Gwilym

disgyblionAm fore llawn hwyl! Daeth Strempan i'n gweld!!!! Hi Hi!!! Cawsom sesiwn stori gyda Mari Gwilym, dywedodd hanesion di-ri a darllenodd stori Corwynt i ni. Am hwyl!! Mae'n braf gweld bod storiau Gwlad y Rwla yn parhau i fod gymaint o hwyl hyd heddiw a hwythau wedi eu cyhoeddi gyntaf 33 o flynyddoedd yn nol! Y clasuron yw'r gorau!! Cliciwch yma am fwy o luniau


21/06/2016 Wythnos Cymru Cwl - Morgan Jones Sgorio

morgan jonesFel rhan o'n dathliadau Wythnos Cymru Cwl daeth Morgan Jones cyflwynydd y rhaglen Sgorio ar S4C i'r ysgol i siarad am ei yrfa a sawl drws mae'r iaith Gymraeg wedi agor iddo ar hyd y blynyddoedd. Cawsom weld lluniau arwyr byd peldroed a oedd wedi eu cyfarfod ar hyd y blynyddoedd, sêr fel David Beckham, Ronaldo a Gareth Bale. Dywedodd wrth bawb bod dilyn eich breuddwydion pan yn blant yn eich arwain i yrfa yr ydych wir yn ei fwynhau. Cliciwch yma am fwy o luniau


20/06/2016 Wythnos Cymru Cwl - Pel droed gyda Barry Evans

disgyblionCawsom ymarfer ein sgiliau pel droedio dan arweiniad rheolwr tîm ieuenctid Pwllheli Barry Evans yn y Ganolfan Hamdden ar brynhawn cynhyrfus o flaen gêm cymru yn erbyn Rwsia. Cafodd pawb fodd i fyw yn cicio, driblo a sgorio! Pwy a wyr, efallai y bydd aelodau tîn Cymru y dyfodol yn ein plith! #gyda'ngildd #Euro2016 Cliciwch yma am fwy o luniau


Pamffled Siarter Iaith 2016

I weld Pamffled Siarter Iaith 2016 - cliciwch yma


Gweledigaeth Ysgol Llanbedrog

Ein nôd yw y bydd bob plentyn yn gallu ac yn dewis siarad Cymraeg graenus ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol a thu hwnt, gan ymfalchio yn iaith,diwylliant a thraddodiadau Cymreig.

Beth yw mantais dwy iaith? - cliciwch yma
Cwis Siarter Iaith - cliciwch yma


Gwobr Arian

plantLlwyddodd Ysgol Llanbedrog i dderbyn Gwobr Arian yn Hydref 2015 a bu’r aeolodau o’r Cyngor Ysgol mewn seremoni wobrwyo yn Ysgol Glan y Môr yn derbyn ein tystysgrif ar Dachwedd 12fed, gyda Siwan Llynor yn cynnal gweithgareddau am Archarwyr o Gymru ac yn dysgu am stori Dinas Emrys. Ymlaen am y wobr Aur ar gyfer 2016!


Jambori 2016

plantBu disgyblion Bl 5 a 6 ym mhentref gwyliau Greenachers, Morfa Bychan fore Iau, Ionawr 20fed i weld rhai o sêr S4C yn perfformio a ffilmio Sioe Jambori Tag. Roedd yn fore, llawn hwyl, difyr dros ben yng nghwmni Owain, Mari, Anni, DJ Sal o’r rhaglen Stwnsh, yn ogystal â’r grŵp pop ifanc ‘Storm’.

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

sponsor logos noddwyr

Bookmark and Share

Datganiad Preifatrwydd
© 2023 - Ysgol Llanbedrog ~ Gwefan gan Delwedd