Cyfeillion Ysgol Llanbedrog

Mae criw gweithgar a brwdfrydig iawn o rieni a staff, sef y Cyfeillion, yn codi arian mewn amrywiol ffyrdd i brynu adnoddau i’r ysgol. Croeso i unrhyw riant i ddod i’r cyfarfodydd a chynnig syniadau. Mae y Pwyllgor yn falch iawn o groesawu wynebau newydd ac yn ddiolchgar iawn o bob cymorth.

Cynhelir cyfarfod blynyddol o’r cyfeillion ar ddechrau’r flwyddyn ysgol i godi aelodau newydd ar y pwyllgor, ac i ddechrau trefnu gweithgareddau am y flwyddyn ddilynol. Fel rheol cynhelir tua dwy weithgaredd bob tymor ysgol.

Yn ddiweddar trefnwyd Disgo Calan Gaeaf, Bingo Pasg, Ffair Nadolig, Noson Caws a Gwin, Helfa drysor mewn ceir a thaith gerdded.

Swyddogion y pwyllgor am eleni yw:
Cadeirydd – James Evans
Ysgrifennydd – Miriam Grant
Trysorydd – Lyn Davies

Gwerthfawrogir cefnogaeth y Cyfeillion yn fawr iawn. Mae pob un o blant yr ysgol yn elwa o’u gwaith caled a’u hymddroddiad.

Yn ystod 2013-14 codwyd £____ a phrynwyd 8 gliniadur, adnoddau dosbarth tu allan y Cyfnod Sylfaen.

Yn ystod 2014-15 codwyd £____ a phrynwyd ____ .

 

sponsor logos noddwyr

Bookmark and Share

Datganiad Preifatrwydd
© 2023 - Ysgol Llanbedrog ~ Gwefan gan Delwedd