Cwricwlwm i Gymru
Cwricwlwm i Gymru
Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid.
Cwricwlwm newydd i Gymru:
Mae'r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn datblygu ein cwricwlwm newydd, sy'n eang, cytbwys, cynhwysfawr a heriol, gyda'n gilydd. Ac wrth wraidd y cwricwlwm y mae'r pedwar diben, sy'n rhoi'r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Elfennau Allweddol:
Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys:
- 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16
- 3 cyfrifoldeb traws-gwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
- camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16
- deilliannau cyrhaeddiad sy'n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.
Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:
- Celfyddydau mynegiannol
- Iechyd a lles
- Dyniaethau
- Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd tramor modern)
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).
Bydd y dolenni hyn yn eich helpu i ddeall sut mae Cwricwlwm newydd Cymru yn gweithio a sut y bydd yn helpu eich plentyn i ddysgu.