Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri, felly fe'ch anogwn i ddarllen y polisi hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch:
Pwy ydym ni
Mae Ysgol Llanbedrog ('ni') yn casglu, defnyddio ac yn gyfrifol am wybodaeth bersonol benodol amdanoch chi fel ‘rheolydd data’. Wrth wneud hynny, cawn ein rheoleiddio gan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol sy'n weithredol ledled yr Undeb Ewropeaidd (yn cynnwys y Deyrnas Unedig) ac rydym yn gyfrifol fel 'rheolwr data' am y wybodaeth bersonol honno er dibenion y cyfreithiau hynny.
Gwybodaeth bersonol am ddisgyblion yr ydym yn ei chasglu a'i defnyddio:
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion am y dibenion a ganlyn:
Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio. Dyma lle rydym yn gwneud penderfyniad yn awtomatig amdanoch chi heb ymyrraeth dynol.
Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i brosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:
Yn ogystal, yn gysylltiedig ag unrhyw ddata categori arbennig
Y rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:
Casglu Gwybodaeth am Ddisgyblion
Rydym yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion drwy ffurflenni cofrestru wrth i ddisgyblion ddechrau yn yr ysgol ac rydym yn derbyn peth data drwy Common Transfer File (CTF) os yw plentyn yn trosglwyddo atom o ysgol arall
Er bod y rhan fwyaf o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn hanfodol, bydd peth gwybodaeth yn cael ei darparu ar sail wirfoddol
Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data, byddwn yn rhoi gwybod i chi p'un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn.
Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatâd penodol ac yn rhoi'r opsiwn i chi dynnu'r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Storio Data am Ddisgyblion
Rydym yn cadw data am ddisgyblion yn ddiogel am gyfnodau penodol o amser fel y dangosir yn ein rhestr cyfnodau cadw. Am ragor o wybodaeth am ein cyfnodau cadw, ewch i’r polisi diogelu data ar ein wefan www.ysgolllanbedrog.cymru
Gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion
Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd gyda:
Asiantaethau a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan
Cwmnïau perthnasol sy'n hyrwyddo ac yn gweinyddu profiadau dysgu ein disgyblion
Pandemig COVID-19 2020
Efallai na fydd yn bosib bob amser i adlewyrchu'r holl ddefnyddiau newydd neu newidiol a wneir o ddata personol a allai ddigwydd fel ymateb i'r Pandemig COVID-19.
Mae'r data personol y gellir ei rannu yn cynnwys:
Sail Gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol
Rhannu eich data personol
Yn ystod Pandemig COVID-19, efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth gyda:
Tîm ‘Track and Trace’ Cyngor Gwynedd at ddibenion cysylltu â phersonau a allai fod wedi bod yn agored i Coranfirws.
Gwneir hyn mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelu data.
Pam yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd
Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ein disgyblion gydag unrhyw un heb ganiatâd, oni bai bod y gyfraith a'n polisïau yn caniatáu i ni wneud hynny.
Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cymru ar sail statudol. Mae rhannu data yn y modd hwn yn tanategu cyllid yr ysgol ac yn monitro cyrhaeddiad addysgol.
Mae'n ofynnol i ni gasglu data dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011.
Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda'n Hawdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd, a Llywodraeth Cymru dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011
Cais i gael mynediad i'ch data personol
Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad i'r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad i gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch ag un o'r isod:
Pennaeth
Ysgol Llanbedrog
Ffordd Pedrog
Llanbedrog
Gwynedd
LL53 7NU
Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Mae gennych hefyd yr hawl i:
Os oes gennych bryder ynglŷn â'r modd yr ydym yn casglu neu'n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi godi eich pryder gyda ni i ddechrau. Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) drwy https://ico.org.uk/concerns
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Mae'n bosib y bydd angen i ni ddiweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gyfnodol, felly, argymhellwn eich bod yn ailymweld â'r wybodaeth hon o bryd i'w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hwn ddiwethaf ar Ionawr 2021
Cyswllt
Os hoffech drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch ag un o'r isod:
Pennaeth
Ysgol Llanbedrog
Ffordd Pedrog
Llanbedrog
Gwynedd
LL53 7NU
Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH