20/06/2016 Wythnos Bwyta'n IachFel rhan o weithgareddau Wythnos Bwyta'n Iach mae plant y Cyfnod Sylfaen wedi bod wrthi yn brysur yn dysgu am y blas bwyd a chael balans o fwydydd i greu diet cytbwys. Cafodd pawb brynhawn difyr yn dysgu am wahanol ffrwythau a chreu cebabs ffrwythau lliwgar a oedd werth eu gweld. Daeth Anti Susan atom hefyd i ddangos i ni sut i wneud bara, a cawsom hwyl yn tylino cyn siapio y does i greu bara diddorol iawn. Cliciwch yma am fwy o luniau |